Mae caru Mhrynwr mawr

1,2,(3).
(Tân Cariad)
  Mae caru Mhrynwr mawr,
    Mae edrych ar ei wedd,
  Yn bleser mwyaf sydd
    I'w gael tu yma'r bedd:
O gariad rhad, O gariad drud,
Sydd fil o weithiau'n
    fwy na'r byd!

  Enynodd ynof dân
    O gariad pur y nef;
  'Dall neb ei ddiffodd chwaith
    Tra credwyf ynddo Ef:
Mae'i lais, mae'i wedd,
      mae rhîn ei waed,
Yn troi ngelynion dan fy nhraed.

  Bydd di yn gymhorth pur
    I'm henaid ddydd a nos;
  Fy holl ddyddanwch gwir
    Fo'n tarddu o waed y groes:
Dystewi wnaf,
    mae trysor mwy
Na fedd y byd mewn marwol glwy'.
William Williams 1717-91

Tôn [666688]:
  Alun (John Ambrose Lloyd 1815-74)
  Beverley (The Psalms of David 1791)
  Grove (<1829)
  Kendal (<1868)
  New-Born (<1867)

gwelir:
  Bydd di yn ymborth pur
  Disgleiria fore wawr
  Ennynaist ynwy' dân
  O dychwel Arglwydd mawr
  Yr unig noddfa bur

(The Fire of Love)
  Loving a great Redeemer,
    Looking upon his face
  Is the greatest pleasure there is
    To be had this side of the grave:
O free love, O costly love,
Which is a thousand times
      greater than the world!

  Kindle in me a fire
    Of the pure love of heaven;
  That no-one can extinguish either
    While I believe in Him:
His voice is, His face is,
      the virtue of his blood is,
Turning enemies under my feet.

  Be thou a pure help
    To my soul day and night;
  All my true comfort
    Be issuing from the blood of the cross:
Be silent I shall,
    there is greater treasure
Than the world possesses in a mortal wound.
tr. 2017 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~